Gyrrwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad

beic modur Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A40 rhwng Caerfyrddin a Nantgaredig

Mae gyrrwr beic modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar ffordd yr A40 yn Sir Gaerfyrddin.

Fe darodd beic modur a fan yn erbyn ei gilydd yn Felin-wen rhwng Caerfyrddin a Nantaredig tua 16:20 ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod gyrrwr y beic modur wedi marw o'i anafiadau.

Bu'r ffordd ynghau tan tua 01:00 fore Sul wrth i swyddogion gynnal ymchwiliad o'r safle.