Profion cyfergyd pellach i Dan Biggar wedi ergyd i'w ben

Dan Biggar Image copyright Huw Evans picture agency

Mae maswr y Gweilch, Dan Biggar yn cael profion cyfergyd pellach wedi iddo gael ei anfon yn ôl i'r cae wedi ergyd i'w ben yn ystod y gêm Pro 12 yn erbyn Leinster ddydd Sadwrn.

Fe fethodd Biggar gic gosb yn y funud olaf yn y golled o 20 i 18.

Mewn cyfweliad wedi'r gêm, dywedodd Biggar: "Alla i ddim cofio rhyw lawer o'r 10 munud olaf a bod yn onest. Ro'n i chydig bach yn ddryslyd."

Fe aeth y chwaraewr rhyngwladol 27 oed oddi ar y cae am naw munud wedi codwm 20 munud i fewn i'r ail hanner.

Mae'r Gweilch yn dweud y bydd yn rhaid iddo basio profion o'r newydd cyn y caiff chwarae eto.