Hoci iâ: Dim camp lawn i Devils Caerdydd

Chwaraewr hoci y Diawled Image copyright Getty Images

Doedd dim camp lawn i Devils Caerdydd ar ôl iddyn nhw golli yn rownd derfynol gemau ychwanegol y Gynghrair Elît.

Roedd y Devils ar y blaen ar ddiwedd y cyfnod cyntaf ond daeth y Sheffield Steelers yn ôl i ennill 6-5 wedi dau gyfnod o amser ychwanegol.

Wedi iddyn nhw ennill y Gynghrair Elît a'r Cwpan Her yn gynharach yn y tymor, roedd cefnogwyr tîm y brifddinas yn gobeithio cael tlws arall i goroni tymor campus.

Mae'r golled yn golygu nad oes yr un clwb wedi ennill y tair cystadleuaeth mewn tymor ers i Nottingham Panthers wneud hynny yn 2012-13.

Straeon perthnasol