'Newid agwedd' wedi bod at yr iaith medd swyddog yr Urdd

  • 16 Ebrill 2017
Helen Greenwood

Mae gwraig sy'n ymddeol ar ôl gweithio am chwarter canrif i'r Urdd yn y de ddwyrain yn dweud bod agwedd rhieni tuag at y Gymraeg yn yr ardal wedi newid yn llwyr yn ystod y cyfnod y buodd hi yno.

Yn 1991 y dechreuodd Helen Greenwood weithio gyda'r mudiad yng Ngwent, ac fe fu hefyd yn gweithio gyda'r Cylch Meithrin lleol.

"Mae gen i storis gan rieni yn y Cylch Meithrin pan agorodd o, ymhell cyn i fi ddod, lle oedd pobl yn awgrymu bod nhw off eu pennau yn penderfynu bod nhw eisiau i'w plant fynd i ysgol Gymraeg."

Mae'r agwedd yna wedi chwyldroi erbyn heddiw meddai.

"Hynny yw mae pawb yn derbyn erbyn hyn bod cael ysgolion Cymraeg a chylchoedd meithrin yn rhan normal o unrhyw gymdeithas."

Image copyright Helen Greenwood
Image caption Taith gerdded noddedig ar y Bont Newydd sydd yn croesi’r Hafren gyda Twm Bwrlwm, cymeriad Eisteddfod Yr Urdd yn Islwyn yn 1997

Mae twf addysg Gymraeg yn yr ardal yn arwydd arall bod yna frwdfrydedd dros yr iaith, a'r llynedd ac yn 2015 Gwent oedd yr ardal gyda'r nifer uchaf o aelodau'r Urdd yng Nghymru gyfan - ffaith meddai sydd yn "anhygoel o ystyried cyn lleied o Gymraeg sydd yn yr ardal wir."

Ei chymar wnaeth ei pherswadio i symud i Flaenau Gwent am ei fod yn byw yn yr ardal. Ac o fewn dim roedd hi wedi cael cynnig gwaith.

"Cael galwad ffôn gan rywun oedd yn nabod rhywun, oedd yn gwybod mod i wedi symud, yn dweud bod nhw yn chwilio am swyddog datblygu rhan amser i'r Urdd yn yr ardal. A trio dweud mod i ddim yn adnabod yr ardal, bod gen i ddim syniad o ran yr ysgolion ac ati," meddai ond fe gafodd ei pherswadio i fynd i gael sgwrs efo cadeirydd y pwyllgor rhanbarth yn yr ardal.

"Anne Hughes oedd ei henw hi, oedd hi yn brifathrawes yn Ysgol Gymraeg Trelyn a hi wnaeth fy mherswadio fi. Oedd ei brwdfrydedd hi'n heintus."

Mae Helen ei hun wedi bod yn frwd dros y Gymraeg ac wedi gweithio i Gymdeithas yr Iaith ar un cyfnod er nad oedd hi'n siarad yr iaith ar yr aelwyd gartref.

Dysgu'r Gymraeg wnaeth hi yn yr ysgol gynradd yn Ynys Môn. Yn ôl ei thad, pe byddai'r teulu wedi byw yn Lloegr, fe fyddai ei ferch wedi ymwneud gyda rhyw achos neu'i gilydd am fod hynny yn rhan o'i chymeriad.

Image copyright Helen Greenwood
Image caption Criw o staff yr Urdd yn Sain Ffagan ar ddiwedd y 90au
Image copyright Helen Greenwood
Image caption Gweithio cefn llwyfan mewn Eisteddfod

"Odd o yn dweud mwy na thebyg byddwn ni wedi cael fy nhynnu mewn i neud rwbath gyda CND, neu fudiad gwyrdd neu rwbath, bod o jest yn rhan ohono i, mod i isio bod yn rhan o fudiadau oedd yn cynnig gweithredu dros gyfiawnder neu yn yr achos yma dros yr iaith."

Yr her pan oedd hi'n cychwyn efo'r Urdd yng Ngwent oedd cynnig ystod o weithgareddau i blant a phobl ifanc oedd ddim yn cael y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg tu allan i furiau'r ysgol. Mae argyhoeddi ysgolion ail iaith fod yna werth bod yn rhan o'r Urdd wedi bod yn her arall.

"Ond mae hwnna wedi mynd yn haws ar hyd y blynyddoedd achos mae o yn rhan o'r cwricwlwm rŵan bod nhw yn cynnig y Gymraeg a phethau o'r tu allan i'r ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg."

Sialens arall yw cynnig digon o gyfleoedd i bobl ifanc sydd ddim yn yr ysgolion fel eu bod yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol.

"Mae'n hawdd i ni drefnu gweithgareddau i blant a phobl ifanc tra bod nhw yn yr ysgol. Yr her ydy cadw gafael arnyn nhw, y rhai sydd ddim efallai yn mynd i'r brifysgol, sydd yn aros yn yr ardal.

"Mae angen i'r Mentrau, yr Urdd, y Mudiad Meithrin ddangos iddyn nhw bod yna gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg. Achos maen nhw yn colli'r cyfle ac yn troi fyny ac yn dweud, 'O, dw i ddim yn gallu siarad Cymraeg bellach. Dw i wedi gadael yr ysgol. '

"Wrth gwrs diffyg hyder ydy o. Dydyn nhw byth yn mynd i anghofio ond jest cyfleoedd sydd angen."

Image copyright Elin Maher
Image caption Helen Greenwood yn derbyn rhoddion yn ystod ei Eisteddfod Rhanbarth Cynradd olaf yng Ngwent

Ddiwedd yr haf y bydd Helen yn gorffen gweithio gyda'r Urdd ac mae'n cyfaddef fod gwneud popeth am y tro olaf yn deimlad 'od'.

Mae ei diolch yn fawr i'r gwirfoddolwyr a'r athrawon ac yn dweud na fyddai wedi cyflawni nag wedi mwynhau cymaint heb eu help.

"Bydda i'n colli'r gwmnïaeth mae hwnna yn sicr. Bydda i yn colli'r amrywiaeth yr holl bethau 'dw i wedi gwneud.

"Ond mae'r amser nawr i gamu nôl a gadael i rywun ifancach gymryd drosodd."