Arweinydd Cyngor Caerffili, Keith Reynolds, wedi marw

  • 10 Ebrill 2017
Cyngor Caerffili / Keith Reynolds Image copyright Geograph/Cyngor Caerffili

Mae arweinydd Cyngor Caerffili, Keith Reynolds, wedi marw yn 71 oed.

Dywedodd y dirprwy arweinydd, David Poole, bod Mr Reynolds wedi bod yn "was cyhoeddus arbennig" ac yn "benderfynol o wneud ei orau i'w gymuned leol a'i sir".

Roedd Mr Reynolds yn gweithio fel gof cyn troi at wleidyddiaeth gyda'r blaid Lafur.

Roedd eisoes wedi cyhoeddi y byddai'n ymddeol ym mis Mai ar ôl bron i 40 mlynedd fel cynghorydd.