David Parry-Jones: 'Un o'r goreuon'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

David Parry-Jones: 'Un o oreuon y byd darlledu'

10 Ebrill 2017 Diweddarwyd 17:28 BST

Mae'r darlledwr a chyn-sylwebydd rygbi BBC Cymru, David Parry-Jones wedi marw yn 83 oed.

Bu'n gyflwynydd rhaglen newyddion BBC Wales Today am nifer o flynyddoedd, a bu'n gweithio fel dadansoddwr rygbi ar gyfer BBC Radio 5.

Yn rhoi teyrnged iddo, mae cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies yn ei gofio fel "un o oreuon y byd darlledu yng Nghymru a thu hwnt".