Tân mewn plasty gwag yng Nghaernarfon 'yn un bwriadol'

  • 12 Ebrill 2017
Plas Ty Coch Image copyright Dilwyn Ellis Hughes
Image caption Mae Plas Tŷ Coch ger Caernarfon wedi bod yn wag ers blynyddoedd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn trin tân mewn plasty gwag yng Nghaernarfon fel un bwriadol.

Mae ffordd yr A487 wedi ailagor yn dilyn y tân ym Mhlas Tŷ Coch ar Ffordd Bangor, wedi iddo achosi oedi difrifol i deithwyr fore Mercher.

Roedd y ffordd wedi bod ynghau am oriau rhwng cylchfan archfarchnad Morrisons a chylchfan Plas Menai wrth i ymladdwyr geisio diffodd y fflamau.

Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod dwy injan dân wedi eu galw i'r digwyddiad am tua 06:30.

Roedd y tân wedi lledaenu o'r llawr gwaelod i rannau uchaf yr adeilad.

Image caption Roedd oedi difrifol mewn sawl ardal gyfagos wrth i deithwyr gael eu dargyfeirio oherwydd y tân

Fe gadarnhaodd yr awdurdodau nad oedd unrhyw un wedi eu hanafu o ganlyniad i'r tân.

Yn gynharach ddydd Mercher dywedodd dyn lleol, Dilwyn Ellis Hughes, sy'n byw 200 llath o'r adeilad bod "mwg ysbeidiol i'w weld yn dod allan o Blas Tŷ Coch".

Mae Plas Tŷ Coch yn adeilad rhestredig Gradd II ar lan Afon Menai sydd wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd.