Dyn 19 oed wedi ei drywanu

  • 10 Ebrill 2017
car heddlu

Mae dyn 19 oed wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd brynhawn Llun.

Fe gafodd Heddlu'r De eu galw i ardal Tre-biwt am tua 17:40 yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael anafiadau cyllell i'w goes.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu ei fod wedi cael ei gludo i'r ysbyty, ond nad yw ei anafiadau yn rhai sy'n peryglu ei fywyd.

Fe gafodd swyddogion arfog eu gyrru i'r ardal am gyfnod rhag ofn.

Mae Heddlu'r De yn apelio am unrhyw dystion i'r digwyddiad ac oedd yn yr ardal rhwng 17:30 a 18:00 i ffonio ar 101.