£24m o grantiau i hybu twristiaeth wledig

Rheilffordd yr Wyddfa Image copyright Getty Images

Mae mwy na £24m o grantiau yn cael eu cynnig er mwyn hybu twristiaeth yng nghefn gwlad Cymru.

Bydd yr arian ar gael er mwyn gwella adnoddau, cynyddu ymgyrchoedd marchnata a datblygu atyniadau newydd.

Gall cwmnïau preifat, elusennau a chyrff y sector cyhoeddus i gyd wneud cais am arian, sy'n rhan o gronfa sy'n cael ei ariannu'n rhannol drwy Gynllun Datblygu Gwledig gwerth £1bn gan yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Ysgrifennydd Economi Cymru, Ken Skates, ei fod yn gobeithio adeiladu ar "ddwy flynedd o dorri recordiau" i dwristiaeth yng Nghymru.

Image caption Gallai atyniadau fel y caffi ar gopa'r Wyddfa elwa o'r grantiau fydd ar gael

Straeon perthnasol