Enwi'r olygfa o gopa'r Wyddfa fel y 'gorau yn y DU'

  • 11 Ebrill 2017
llyn llydaw Image copyright Google
Image caption Yr olygfa o gopa'r Wyddfa yn edrych tuag at Lyn Llydaw gafodd ei dewis fel yr orau

Mae'r olygfa o gopa'r Wyddfa wedi dod i'r brig mewn arolwg i ddod o hyd i'r olygfa orau yn y DU.

Cafodd mynydd uchaf Cymru ei ddewis o flaen atyniadau adnabyddus eraill gan gynnwys Loch Ness yn yr Alban, Côr y Cewri yn Wiltshire a Phalas Westminster yn Llundain.

Roedd y deg uchaf ar y rhestr hefyd yn cynnwys mynyddoedd y Three Sisters a llyn Loch Lomond yn yr Alban, Bae St Ives, Cheddar Gorge, a llyn Buttermere yn Lloegr, a Sarn y Cawr yng Ngogledd Iwerddon.

Fe wnaeth yr arolwg o 2,500 o bobl gan gwmni Samsung hefyd awgrymu bod pobl dan 55 oed yn tynnu 1,071 o luniau bob blwyddyn ar eu ffonau symudol ar gyfartaledd.

Straeon perthnasol