'Argyfwng' diffyg tiwtoriaid Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru

Spin the wheel in Welsh

Mae "argyfwng" dysgu Cymraeg i oedolion yn ne-ddwyrain Cymru oherwydd cynnydd ym mhoblogrwydd gwersi a phrinder tiwtoriaid.

Yn ôl pennaeth Dysgu Cymraeg Gwent, sy'n darparu gwersi Cymraeg i oedolion yn siroedd Mynwy, Blaenau Gwent, Casnewydd, Caerffili a Thorfaen, mae anawsterau wrth geisio dod o hyd i ddigon o diwtoriaid.

Dywedodd Geraint Wilson-Price wrth Cymru Fyw bod y galw ymhlith oedolion am wersi wedi cynyddu 36% ers y llynedd.

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dweud bod eu ffigyrau diweddaraf yn cadarnhau'r cynnydd sylweddol yn y nifer sydd eisiau dysgu Cymraeg yn y de-ddwyrain, a bod y cynnydd yn drawiadol o'i gymharu â gweddill Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu'r ganolfan, yn dweud bod y cynnydd i'w groesawu a bod ymroddiad i sicrhau bod pawb sydd am ddysgu'r iaith yn cael y cyfle i wneud hynny.

Y sefyllfa yn Sir Fynwy

  • Mae nifer y dysgwyr wedi dyblu, o 225 yn 2016 i 467 eleni;
  • Mae nifer y dosbarthiadau wedi cynyddu o 19 i 47;
  • 48 o diwtoriaid sydd gan Dysgu Cymraeg Gwent, yn gweithio rhwng tair ac 20 awr bob wythnos;
  • Maent yn chwilio am bobl sydd â phrofiad dysgu, neu heb brofiad ond sy'n fodlon cael hyfforddiant, er mwyn cynyddu'r nifer.

Dywedodd Mr Wilson-Price: "Mae'n argyfwng heb os. Ar hyn o bryd mae yna bobl sydd am sefydlu dosbarthiadau ond ni methu gwneud hynny.

"Mae'n rhaid i ni aros tan Medi i weld a oes modd aildrefnu, llenwi'r bylchau ond o bosib bydd y diddordeb wedi pylu erbyn hynny.

"Mae yna dwf naturiol wedi bod. Ond hefyd mae yna alw mawr wedi bod yn ardal y Fenni, a hynny ers yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016.

"Mae yna fwy o ymwybyddiaeth o'r iaith, a phobl eisiau gwybod mwy a chael y cyfle i'w dysgu."

Image caption Mae Helen Prosser yn dweud bod y sefyllfa yng Ngwent yn wahanol i ardaloedd eraill Cymru

Yn ôl Helen Prosser o'r Ganolfan Gymraeg Genedlaethol, mae'r sefyllfa yn yr ardaloedd sydd dan ofal Dysgu Cymraeg Gwent yn un trawiadol.

"Rydym wedi gwirio'r ffigyrau ac mae'r sefyllfa yn wahanol, mae yna gynnydd yn y galw ac mae yna brinder o ran tiwtoriaid," meddai.

"Mewn llefydd eraill fel cymoedd y de, sydd yn draddodiadol wedi wynebu problemau o ran tiwtoriaid, mae Prifysgol De Cymru ym Mhontypridd wedi llwyddo recriwtio mwy o diwtoriaid."

'Gwaith gwyrthiol'

Ond ychwanegodd bod yn rhaid cofio eu bod yn agos i lefydd fel Caerdydd lle mae ffynhonnell o diwtoriaid posib.

"Mae Coleg Gwent wedi gwneud gwaith gwyrthiol, ond mae hi'n broblem. Mae hi'n anodd," meddai Ms Prosser.

Image caption Fe wnaeth Carwyn Jones amlinellu ei weledigaeth i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn yn ystod Eisteddfod Y Fenni

Dywedodd hefyd bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni wedi codi ymwybyddiaeth yn Sir Fynwy.

"Rhywbeth arall sydd wedi profi'n annisgwyl yw'r gwersi Cymraeg dwys iawn sydd wedi dechrau yn yr ardal eleni, naw awr o wersi bob wythnos ac mae'r rhain wedi profi'n boblogaidd iawn," meddai.

562,000 o siaradwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod eisiau gweld nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050.

Gwnaeth Carwyn Jones y cyhoeddiad yn ystod yr Eisteddfod 'nôl ym mis Awst 2016.

Yn ôl cyfrifiad 2011, roedd 19% o boblogaeth Cymru, 562,000, yn siarad yr iaith.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r ffigyrau ac yn croesawu'r ffaith ei fod mewn ardaloedd lle nad yw'r Gymraeg wedi bod yn brif iaith draddodiadol ers peth amser.

Ychwanegodd y bydd y llywodraeth yn ymrwymo i sicrhau bod y gwahanol sefydliadau yn cydweithio er mwyn sicrhau fod pawb sydd am gael dysgu'r iaith yn cael y cyfle i wneud hynny. Yn ôl cyfrifiad 2011, roedd 19% o boblogaeth Cymru, 562,000, yn siarad yr iaith.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r ffigyrau ac yn croesawu'r ffaith ei fod mewn ardaloedd lle nad yw'r Gymraeg wedi bod yn brif iaith draddodiadol ers peth amser.

Ychwanegodd y bydd y llywodraeth yn ymrwymo i sicrhau bod y gwahanol sefydliadau yn cydweithio er mwyn sicrhau fod pawb sydd am gael dysgu'r iaith yn cael y cyfle i wneud hynny.

Dywedodd Llyr Gruffydd llefarydd Plaid Cymru ar addysg gydol oes "nad yw Llafur wedi sylweddoli cymaint o her yw cyrraedd y nod sy'n gofyn am greu tua 18,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol bob blwyddyn dros y tri degawd nesaf.

"Mae gan addysg Gymraeg i oedolion ran allweddol i'w chwarae yn yr ymdrech honno, a rhaid troi pob carreg i sicrhau fod yr adnoddau a'r ddarpariaeth angenrheidiol ar gael ym mhob rhan o Gymru.

"Fedrwn ni ddim bodloni ar sefyllfa ble mae'r galw yn mynd heb ei ateb."