Dyn yn euog o achosi marwolaeth llysfab pump oed

Dean Collins Image copyright Wales News Service
Image caption Clywodd y llys bod gan Dean Collins gocên yn ei waed ar adeg y gwrthdrawiad

Mae dyn wedi ei gael yn euog o achosi marwolaeth bachgen pump oed drwy yrru'n beryglus yng Nghaerdydd.

Bu farw Joseph Smith yn y gwrthdrawiad ar Rodfa'r Gorllewin yn y ddinas ym mis Medi 2015.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod gan lystad y bachgen, Dean Collins, 24, gocên yn ei waed pan darodd gerbydau eraill.

Yn ogystal ag achosi marwolaeth, cafwyd Collins yn euog o bedwar cyhuddiad o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.

Cafodd pedwar o bobl anafiadau i'w cefnau, breichiau a choesau, ac fe wnaeth un person gael ei ddallu mewn un llygad.

Image copyright Wales News Service
Image caption Clywodd y llys bod Joseph Smith ar ei ffordd i ymarfer pêl-droed pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad

Clywodd y llys bod Collins yn gyrru'r Ford Focus yn wyllt cyn y gwrthdrawiad, ac nad oedd Joseph yn defnyddio sêt arbennig i blentyn gan nad oedd Collins yn meddwl ei fod angen un.

Dywedodd Collins wrth y llys ei fod yn cofio teithio tuag at y goleuadau traffig ger archfarchnad Tesco ond ei fod yn cofio dim ar ôl hynny nes iddo ddeffro yn y car gydag anafiadau difrifol.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Mercher.

Image copyright Wales News Service
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Rodfa'r Gorllewin ym mis Medi 2015