Cyn-fewnwr Cymru, Mike Phillips i ymddeol o rygbi

Mike Phillips
Image caption Fe wnaeth Mike Phillips ennill 99 o gapiau dros Gymru a'r Llewod

Mae cyn-fewnwr Cymru, Mike Phillips, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor.

Phillips, sy'n chwarae dros Sale, yw'r mewnwr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros Gymru, 94.

Chwaraeodd ym mhob gêm wrth i Gymru ennill y gamp lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2008 a 2012, ac enillodd y gystadleuaeth eto yn 2013.

Bu'n cynrychioli Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd yn 2011, ac fe gafodd ei gynnwys yng ngharfan y Llewod yn 2009 a 2013.

Mewn neges ar wefan Twitter, diolchodd i'r "cefnogwyr, cyd-chwaraewyr, hyfforddwyr, Undeb Rygbi Cymru, y Llewod, ffrindiau a theulu sydd wedi fy nghefnogi dros y blynyddoedd".

Dywedodd y byddai'n symud ymlaen i'r cyfnod nesaf yn ei fywyd gyda'r un "angerdd, ymrwymiad a hwyl a wnes i yn ystod fy ngyrfa i gyd".