Cynghrair y Pencampwyr: Heddlu'n 'sicrhau diogelwch'

Borussia Dortmund Bus Image copyright Getty Images

Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ddiogel pan fydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd.

Roedd yr Uwcharolygydd Steve Furnham, o Heddlu De Cymru, yn siarad ar ol i fws yn cario tim Borussia Dortmund gael ei ddifrodi gan gyfres o ffrwydradau ddydd Mawrth.

Cafodd un chwaraewr, Marc Bartra, ei anafu yn y digwyddiad.

Roedd y clwb i fod i chwarae Monaco yng Nghynghrair y Pencampwyr, ond cafodd y gêm ei gohirio.

'Paratoadau diogelwch manwl'

Mae disgwyl hyd at 170,000 o gefnogwyr yn y ddinas ar gyfer y digwyddiad ar 3 Mehefin, a'r gred yw y bydd 1,500 o heddweision yn plismona'r digwyddiad.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Furnham: "Mae digwyddiadau yn Yr Almaen ddoe yn cael eu hymchwilio'n llawn gan yr awdurdodau yno ac ni allwn ddyfalu am y mater.

"Mae cynllunio a pharatoadau diogelwch manwl ar gyfer rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd wedi bod yn digwydd ers sawl mis.

"Bydd mesurau mewn grym i atal cerbydau rhag mynd i nifer o lefydd yng Nghaerdydd.

"Rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid yma yn ne Cymru yn ogystal â gyda nifer o awdurdodau diogelwch dros y wlad i sicrhau lleoliad diogel ar gyfer mis Mehefin."

Straeon perthnasol