Angen 'meddwl o'r newydd' i daclo tlodi medd ymchwil

Lansbury
Image caption Mae dros 2,000 o bobl yn byw ym Mharc Lansbury gafodd ei adeiladu yn y 60au

Mae gwaith ymchwil economaidd oedd yn edrych ar Barc Lansbury yng Nghaerffili yn awgrymu bod angen meddwl o'r newydd ynglŷn â sut rydyn ni'n taclo tlodi yng Nghymru.

Mae'r stâd o dai wedi cael y label "yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru" yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Casgliad yr adroddiad yw bod angen newid agwedd, ond nad oes ateb syml.

Fe dreuliodd Dr Mark Lang chwe mis yn gweithio yn y stâd, sy'yn gartref i 2,200 o bobl ac wedi ei leoli tua milltir o ganol tref Caerffili.

'Problemau dwfn'

Yr Athro Dave Adamson wnaeth gydweithio gyda Dr Lang, ar ôl arwain y gwaith ymchwil cyntaf ar Barc Lansbury yn 1993.

Y cyngor lleol wnaeth gomisiynu'r adroddiad a dyw'r dadansoddiad ddim yn rhoi'r bai ar unrhyw un yn benodol, ond yn dweud bod y cynlluniau i newid pethau yn y gorffennol ddim wedi gweithio.

Er bod arian wedi ei wario a rhaglen Cymunedau'n Gyntaf wedi ei weithredu, mae problemau economaidd a chymdeithasol wedi eu "gwreiddio'n ddwfn" yno.

Roedd yr ymchwil yn edrych ar ffactorau sydd ddim mor hawdd i'w diffinio â'r ystadegau economaidd noeth, ond yr un mor berthnasol.

Mae "teimlad" y lle yn cael ei weld fel un rhwystr, gyda dim llawer o goed a llefydd gwyrdd yno.

Image caption Roedd yr ymchwil gwreiddiol yn 1993 yn tanlinellu problemau cymdeithasol ac economaidd ar y stâd

Her arall yw cael dynion yn eu 20au a'u 30au i fod yn ffit ac mewn gwaith.

Er y newidiadau i'r system les nid oes cynnydd mawr wedi bod mewn pobl yn ymuno gyda rhaglenni i'w helpu i gael swyddi.

Pryder arall yw faint o gymwysterau sydd gan y trigolion. Does gan dros hanner ohonyn nhw ddim rhai o gwbl.

Ysgol yn 'foddhaol'

"Boddhaol" oedd casgliad yr arolygwyr ar ôl mynd i weld yr ysgol gynradd leol, St James', ond roedden nhw'n galw am gynnydd mewn safonau darllen, ysgrifennu a phresenoldeb.

Mae athrawes newydd yno nawr ond mae'r heriau yn parhau ac yn fwy eang na dim ond yn yr ystafell ddosbarth.

Image caption Cyngor Caerffili sydd berchen y tai cymdeithasol, ac maen nhw wrthi'n gwneud y tai yn fwy cynnes a sych

Mae golwg y stâd yn rhywbeth mae pobl yn ymwybodol ohono, gyda fflatiau a thai o'r 60au i gyd yr un lliw. Ond mae newid ar droed gyda £10m yn cael ei fuddsoddi dros y 18 mis nesaf.

Mae Sian Denatale wedi byw yn Lansbury am 18 mlynedd: "Mae wedi newid llawer - er gwell. Mae yna deimlad o gymuned yma, pawb yn helpu ei gilydd.

"Ond rydyn ni angen help i wella'r ardal fel maen nhw'n gwneud gyda'r tai.

'Enw drwg'

"Byddai parc a chanolfan adnoddau yn braf, caffi gyda rhyngrwyd i blant hŷn.

"Maen nhw'n mynd i'r dref, yn sefyllian o gwmpas y strydoedd a'r orsaf. Gallai unrhyw beth ddigwydd."

Yn ôl Lorna Wellington, gafodd ei magu am gyfnod ar yr ystâd ac sy'n dal i fyw yn lleol, mae Lansbury wedi cael enw drwg am flynyddoedd ond mae llefydd eraill meddai "yr un mor wael".

Mae swyddogion y cyngor wedi derbyn casgliadau Dr Lang ac yn dweud bod yr holl fudiadau sydd ynghlwm â'r stâd angen mabwysiadau agwedd aeddfed gan gydnabod bod methiannau wedi bod yn y gorffennol.

Image caption Mae Lorna (chwith) a Heidi (dde) yn dweud bod yna gymuned dda yno a phawb yn cefnogi ei gilydd

Nid dim ond rhoi mwy o arian yw'r ateb, ond canolbwyntio ar gefnogaeth i helpu'r bobl eu hunain.

"Mae'n gylch. Os yw pobl yn dweud eich bod chi ddim digon da, chi'n credu hynny ac mae'r cylch yn troi ac mae'n rhaid i ni ymyrryd," meddai Christina Harry o Gyngor Caerffili.

"Mae'r cyfleoedd a'r swyddi yno. Mae'n leoliad gwych a gyda newidiadau i'r seilwaith trafnidiaeth bydd hi'n haws cyrraedd Caerdydd a'r ardal ehangach. Mae'r gymuned yma jyst angen credu yn eu hunain."

Dim newid 'dros nos'

Mae'r adroddiad yn cynnwys 22 argymhelliad gan gynnwys cynnig cyfleoedd dysgu tu allan i'r dosbarth, a bod y gymuned gyfan yn rhan o weithgareddau - nid dim ond pobl dan anfantais.

Y neges i Lansbury ac ardaloedd tlawd eraill, meddai Dr Lang, yw y gallai hi gymryd 15 mlynedd nes bod yr effaith yn cael ei weld go iawn.

"Does yna ddim ateb hawdd sydd yn mynd i wella pethau yn wyrthiol dros nos," meddai.

"Mae yna nifer fawr o bethau i'w gwneud, rhai yn fach, rhai yn fawr i helpu'r gymuned i dyfu, i fod yn rhan o'r economi a gwella lefelau incwm aelwydydd.

"Dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd dros nos, mae'n sialens hir dymor, sialens ar draws sawl cenhedlaeth ac mae'n rhaid i chi fod yn onest o'r diwrnod cyntaf pa mor hir mae'n mynd i gymryd a graddfa'r her."