Ymchwiliad wedi dau ddigwyddiad yng Nghaerdydd

  • 12 Ebrill 2017
Tatem Drive yn Y Tyllgoed Image copyright Google
Image caption Lleoliad un o'r digwyddiadau yn Tatem Drive yn Y Tyllgoed

Mae'r heddlu'n ymchwilio i ddau achos o anhrefn yng Nghaerdydd sydd wedi gadael dau o bobl yn yr ysbyty.

Roedd y digwyddiad cyntaf am tua 19:15 nos Fawrth yn Heol Glyndŵr, Trelái, a'r llall am 20:50 ar Tatem Drive, Y Tyllgoed.

Mae'r heddlu'n credu bod y ddau ddigwyddiad oedd yn cynnwys criw o ddynion ifanc yn gysylltiedig, ac mae dau o bobl yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

Fe fydd swyddogion ychwanegol yn patrolio'r ardaloedd er mwyn rhoi sicrwydd i'r trigolion lleol.