Medal arian i Elinor Barker ym Mhencampwriaethau'r Byd

Elinor Barker Image copyright Rex Features

Mae'r feicwraig Elinor Barker wedi ennill medal arian ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac y Byd yn Hong Kong.

Fe ddaeth Barker yn ail yn y ras 40 lap (neu 10 cilomedr) i Rachele Barbieri o'r Eidal.

Fe ennillodd Barker fedal aur fel rhan o dîm cwrso'r merched yn y felodrom yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro.

Roedd y gystadleuaeth pum diwrnod yn dechrau ym Mharc Felodrom, Hong Kong ddydd Mercher, ac mae disgwyl i nifer o sêr seiclo Prydeinig efelychu llwyddiant tîm GB yn y Gemau Olympaidd.