Tri chyngor yn osgoi dirwyon am fethu targedau ailgylchu

  • 15 Ebrill 2017
sbwriel
Image caption Bydd cynghorau Cymru yn gorfod ailgylchu 70% o wastraff erbyn 2025

Bydd y tri awdurdod lleol yng Nghymru wnaeth fethu eu targed ailgylchu o 58% o wastraff y llynedd yn osgoi cael eu cosbi.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru fod disgwyl i'r tri chyngor - Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen - ddangos gwelliant sylweddol yn eu perfformiadau o ran ailgylchu.

Cafodd penderfyniad Llywodraeth Cymru ei feirniadu gan y gwrthbleidiau, gyda rhai yn dweud fod strategaeth y llywodraeth wedi colli hygrededd.

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi gosod targedau ailgylchu heriol ar gyfer yr awdurdodau lleol - gyda bygythiad o ddirwyon i'r rhai sydd ddim yn eu cyrraedd.

19 yn cyrraedd

Ar gyfer 2015-16 y targed oedd ailgylchu 58% o wastraff, gyda 19 o 22 o gynghorau Cymru yn cyrraedd y nod.

Ar gyfartaledd llwyddodd cynghorau i ailgylchu 60.2% o wastraff.

Roedd Casnewydd a Thorfaen ychydig yn fyr gan gyrraedd 57%, ond Blaenau Gwent berfformiodd wanaf gyda 49%.

Pe bai'r cynghorau wedi derbyn cosb o £200 am bob tunnell oedd yn uwch na'r targed, byddai Blaenau Gwent wedi derbyn cosb o £537,000.

Image copyright Getty Images

Dywedodd Llywodraeth Cymru - wnaeth osod y targedau statudol cyntaf ar gyfer ailgylchu yn y DU - fod disgwyl cynnydd sylweddol ar gyfer perfformiadau'r tri chyngor yn 2016-17.

"O ganlyniad fe wnaethpwyd penderfyniad i beidio dirwyo'r tri yma," meddai llefarydd.

Yn ôl y ffigyrau diweddara' sydd ar gael hyd at Fedi 2016 mae Casnewydd wedi llwyddo i ailgylchu 60%, a Thorfaen 63%.

Dyw ffigyrau diweddara' Blaenau Gwent heb eu gwirio eto, ond mae'r ffigyrau yn awgrymu fod y canran wedi codi i tua 57%.

Nid dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru beidio â gosod dirwyon am fethu targedau ailgylchu.

Yn 2015, gwnaed penderfyniad tebyg yn achos Caerdydd a Rhondda Cynon Taf.

'Colli hygrededd'

Yn y dyfodol bydd targedau Llywodraeth Cymru yn fwy uchelgeisiol ac erbyn 2020 bydd disgwyl i awdurdodau ailgylchu 64% o wastraff, gyda hyn yn cynyddu i 70% erbyn 2025.

Dywedodd Rebecca Colley-Jones, cyfarwyddwr gydag Ynys Resources, fod Blaenau Gwent wedi gwella ei berfformiad dros y blynyddoedd diwethaf ac "os mai pwrpas y dirwyon yw gwneud i gynghorau gyrraedd y targedau, yna maen nhw'n bendant yn gwneud y peth cywir, ac nid y peth anghywir".

Ond dywedodd Simon Thomas AC, llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd: "Mae'n ymddangos i mi fod y llywodraeth yn colli hygrededd yn y fan hyn, pan 'dyn ni'n mynd trwy ddau gyfnod o osod targedi, a bod rhai awdurdodau yn methu ddwywaith, ac yna nad ydych chi'n gweithredu."

Dywedodd Gareth Bennett AC, llefarydd UKIP ar lywodraeth leol, fod y polisi ddim wedi ei lunio'n dda ac y byddai gosod dirwyon ond yn "taro awdurdodau lleol a threthdalwyr y cyngor yn eu pocedi".

Image caption Mae gan Lywodraeth Cymru yr hawl i gosbi cynghorau sy'n methu targedau ailgylchu

Yn ôl David Melding AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar yr amgylchedd, "dylai fod yna anogaeth ar gyfer cynghorau sy'n tanberfformio i wella eu perfformiad".

Ychwanegodd fod y llywodraeth "mewn peryg o fod yn gi sy'n cyfarth ond ddim yn brathu".

Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Ni all Llywodraeth Cymru obeithio cwrdd â'r targedau ailgylchu os yw cynghorau yn gwybod y gallant fethu targedau heb wynebu cosb."

Ychwanegodd Plaid Werdd Cymru fod prinder cyllid ar gyfer cynghorau wedi arwain at fethu targedau.

'Arwain y ffordd'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Lafur Cymru: "Mae Cymru yn arwain y ffordd wrth ailgylchu, ac yn ôl adroddiad diweddar gan Resource ni yw'r drydedd wlad orau yn y byd o ran ailgylchu."

Ychwanegodd fod pethau yn edrych yn hynod addawol o ran cwrdd â'r targed o 70% erbyn 2025.

Yn ôl Duncan Smith, o Gyngor Torfaen, mae'r awdurdod yn ffyddiog o gyrraedd a gwella'r targed o 63% erbyn 2016-17.

Ychwanegodd Cyngor Casnewydd eu bod yn ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod "yr ymdrech sylweddol sydd wedi ei wneud i leihau gwastraff a chynyddu ailgylchu yn y ddinas".