Dydd y Farn: 'Cynlluniwch cyn teithio i Gaerdydd'

  • 15 Ebrill 2017
Stadiwm Principality Image copyright Graham Hogg/Geograph

Mae pobl sydd yn teithio i Gaerdydd ddydd Sadwrn wedi cael rhybudd i gynllunio'u siwrne o flaen llaw oherwydd gemau rygbi rhanbarthol Dydd y Farn.

Bydd y Gleision yn wynebu'r Gweilch am 14:45 cyn i'r Dreigiau'n herio'r Scarlets, gyda'r ddwy gêm yn cael eu chwarae yn Stadiwm Principality.

Mae disgwyl i'r rhwydwaith drafnidiaeth fod yn brysur tu hwnt wrth i dros 60,000 o gefnogwyr heidio yno, a bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau rhwng 12:45 a 20:15.

Mae hefyd disgwyl mwy o heddlu nag arfer ar y strydoedd, ond dywedodd Cyngor Caerdydd nad oedd hynny'n "adlewyrchiad o unrhyw fygythiad penodol".

Teithio

Llynedd fe wnaeth Trenau Arriva Cymru roi 2,000 o seddi ychwanegol ar y rhwydwaith ar gyfer y gemau, ond roedd y rhwydwaith yn parhau yn brysur.

Mae'r rheiny sydd yn teithio ar y trên eleni wedi cael cyngor i gyrraedd Caerdydd dair awr cyn y gic gyntaf, a bydd gorsaf Heol y Frenhines ar gau o 16:30 ymlaen.

Bydd system giwio mewn lle y tu allan i orsaf Caerdydd Canolog, a bydd gwasanaethau parcio a theithio hefyd ar gael yn y ddinas.

Gallwch ddod o hyd i'r rhestr lawn o ffyrdd fydd ar gau a chyngor teithio pellach ar wefan y cyngor.