Morgannwg yn gwella wedi dechrau sâl yn erbyn Caerwrangon

Aneurin Donald Image copyright Getty Images

Cafodd batwyr Morgannwg ddechrau gwael ar ddiwrnod cyntaf eu gornest yn erbyn Sir Gaerwrangon ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Ar un adeg yn ystod y bore roedd y sgôr yn 46-5, gyda Jacques Rudolph, Nick Selman, Colin Ingram, Aneurin Donald a Chris Cook i gyd allan yn dilyn bowlio bygythiol Joe Leach a John Hastings.

Roedd hi'n 105-8 erbyn cinio, gyda Harry Podmore, Kiran Carlson a Marchant de Lange hefyd yn dychwelyd i'r pafiliwn.

Ond llwyddodd David Lloyd, Lukas Carey a Michael Hogan i wella pethau yn sesiwn y prynhawn, gyda Lloyd yn sgorio 88 rhediad, cyn i Forgannwg gael eu bowlio am gyfanswm o 207.

Collodd Caerwrangon ddwy wiced gynnar yn eu batiad nhw, gyda Daryl Mitchell a Brett D'Oliveira allan heb sgorio'r un rhediad.

Brwydrodd yr ymwelwyr yn ôl fodd bynnag, gan golli dim ond dwy wiced arall wrth adeiladu sgôr o 180-4 erbyn diwedd y diwrnod cyntaf o chwarae yn Stadiwm Swalec, gyda Tom Kohler-Cadmore yn cael 52 heb fod allan.