Beiciwr wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Llandrindod

  • 14 Ebrill 2017
car heddlu

Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud fod seiclwr wedi cael ei ladd mewn gwrthdrawiad yn Llandrindod ddydd Iau.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483, Heol y Deml am tua 19:40, rhwng dau gar a'r beic, a bu'r ffordd ar gau am rai oriau.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn 67 oed fu farw yn dod o Landrindod.

Maen nhw wedi apelio ar unrhyw un welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw, gan gynnwys dau berson oedd yn y car Peugeot 307 oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad ond wnaeth adael cyn i'r heddlu gyrraedd.