Dydd y Farn: Un llygad ar y Pro12, y llall ar deithiau'r haf?

  • 15 Ebrill 2017
lloyd williams, sam davies, scott williams a lewis evans Image copyright Getty Images

Gyda rhanbarthau Cymru'n wynebu'i gilydd yn y brifddinas ddydd Sadwrn, ein gohebydd ni Lowri Roberts sy'n bwrw golwg dros beth i'w ddisgwyl ar Ddydd y Farn.

I nifer o chwaraewyr sy'n gobeithio hawlio eu lle naill ai ar daith Cymru i Ynysoedd y Môr Tawel neu i Seland Newydd gyda'r Llewod fis Mehefin, y gemau darbi yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn fydd y cyfle olaf iddyn nhw greu argraff ar yr hyfforddwyr.

Dyma fydd y pumed tro i'r rhanbarthau Cymreig chwarae gefn wrth gefn yn y stadiwm, a chyda bron i 60,000 o docynnau eisoes wedi eu gwerthu ar gyfer 'Dydd y Farn', mae'n ddigwyddiad sy'n boblogaidd gyda'r cefnogwyr hefyd.

Pwy fydd yn dathlu?

Y gêm gyntaf fydd honno rhwng y Gleision a'r Gweilch. Wedi tri ymgais dyw'r Gleision heb drechu'r Gweilch ar Ddydd y Farn.

Gyda'u lle ym mhedwar uchaf y gynghrair dal yn y fantol, mae buddugoliaeth yn hanfodol i wŷr Steve Tandy.

Talu'r pwyth yn ôl am y golled drom ar y Liberty ddechrau'r tymor fydd y brif ysbrydoliaeth i wŷr Danny Wilson. Mae'r chwaraewyr i gyd yn ysu am gael diddanu'r dorf a chreu argraff.

Image copyright Huw Evans picture agency

Yn dynn ar sodlau'r Gweilch yn y Pro12 mae'r Scarlets, sydd hefyd yn gobeithio cyrraedd rowndiau terfynol y gynghrair. Byddai curo'r Dreigiau yn hwb i'w gobeithion, gyda gemau anodd yn erbyn Connacht a'r Gweilch eto i ddod.

Chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf mewn deg gêm fydd y Dreigiau, sydd wedi cael tymor siomedig.

Ond mae'r garfan yn benderfynol o orffen y tymor yn gryf ac ambell i chwaraewr ifanc, addawol yn gobeithio gwneud digon i deithio gyda Chymru dros yr haf.

Teithiau'r haf

Oes, mae digon i ysbrydoli'r chwaraewyr wrth i Warren Gatland gyhoeddi carfan y Llewod ddydd Mercher.

Bydd Robin McBryde hefyd yn datgelu pwy fydd yn teithio gyda Chymru i Ynysoedd y Môr Tawel yr wythnos ganlynol. Mae pwysau a disgwyliadau.

Ac yn ychwanegol at hynny, mae'r frwydr i hawlio tlws y Pro12 dal yn fyw a'r cwpan yn dal o fewn cyrraedd y Gweilch a'r Scarlets - am y tro o leiaf.