Arestio dyn wedi i ddynes 19 oed gael 'anafiadau difrifol'

  • 14 Ebrill 2017
coedlan y graig Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i Goedlan y Graig am tua 17:45 ddydd Iau

Mae dynes 19 oed wedi cael ei chludo i'r ysbyty ag anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad yn Llanelli.

Cafodd ffordd Coedlan y Graig yn y dref ei chau ddydd Iau wedi i'r heddlu gael eu galw i dŷ ar y stryd am 17:45.

Mae dyn 21 oed bellach wedi cael ei arestio.

Gofynnodd Heddlu Dyfed Powys wrth unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 17:00 a 19:00 a welodd rhywbeth i gysylltu â nhw ar 101.