Sheffield Wednesday 1-0 Caerdydd

  • 14 Ebrill 2017
Bruno Ecuele Manga a Gary Hooper Image copyright Rex Features

Colli oedd hanes Caerdydd ar eu taith i ogledd Lloegr wrth i Fernando Forestieri sicrhau buddugoliaeth hwyr i Sheffield Wednesday.

Ross Wallace ddaeth agosaf i sgorio gôl gyntaf y gêm i'r tîm cartref, wrth i'w ergyd o daro'r postyn ac adlamu allan.

Ar ben arall y cae Joe Ralls oedd bygythiad mwyaf Caerdydd mewn hanner cyntaf gymharol ddistaw.

Daeth Sheffield Wednesday â'u heilyddion ymlaen yn yr ail hanner i geisio newid y gêm, ond roedd cyfleoedd yn parhau'n brin i'r ddau dîm.

Hynny oedd, cyn i Forestieri danio gyda phedair munud i fynd i sicrhau tri phwynt i Wednesday, sydd yn parhau i frwydo i geisio cyrraedd y gemau ail gyfle.