Achub caiaciwr aeth i drafferthion oddi ar Ynys Môn

bad achub Moelfre Image copyright Phil Hen Williams

Cafodd bad achub eu galw ddydd Gwener wedi i gaiaciwr fynd i drafferthion oddi ar arfordir Ynys Môn.

Dywedodd yr RNLI eu bod wedi lansio bad achub am 11:00 i fynd i helpu'r dyn yn ei bedwardegau, a bod gwylwyr y glannau a hofrennydd o Gaernarfon hefyd wedi cynorthwyo.

Cafwyd hyd i'r dyn yn ei bedwardegau, oedd yn gwisgo'r offer diogelwch priodol, yn gafael yn y caiac ar ôl methu â dringo nôl arno.

Roedd yn dangos arwyddion o dansuddo, a chafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.