Gwrthdrawiad: Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth

  • 15 Ebrill 2017
Car Heddlu

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar ffordd yr A472 rhwng Tredomen a Nelson fore Sadwrn.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Volkswagen Polo a Mini am oddeutu 00:10 y bore.

Mae un gyrrwr wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd gydag anafiadau difrifol.

Mae'r Heddlu yn apelio i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.