Medal arian i Barker a Nelson yn y ras Madison yn Hong Kong

  • 15 Ebrill 2017
Elinor Barker ac Emily Nelson Image copyright Reuters
Image caption Mae Barker (chwith) eisioes wedi wedi ennill medal arian yn y ras 40 lap.

Ym mhencampwriaethau Seiclo Trac y Byd yn Hong Kong, llwyddodd y ddwy Gymraes Elinor Barker ac Emily Nelson ennill y fedal arian dros dîm Prydain yn ras y Madison.

Llwyddodd y ddwy i orffen yn ail y tu ôl i Lotte Kopecky and Jolien D'Hoore o wlad Belg.

Dywedodd Barker: "Roeddwn yn nerfus. Doeddwn ddim yn siŵr beth i ddisgwyl."

Dyma oedd pedwaredd medal Prydain yn y bencampwriaeth ac ail fedal arian Barker ar ôl iddi ddod yn ail yn y ras 40 lap yn gynharach yn y bencampwriaeth.