Watford 1-0 Abertawe

Watford v Abertawe Image copyright Getty Images

Mae Abertawe yn parhau yn y safleoedd cwymp yn Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl colli oddi cartref yn Watford o 1-0 ddydd Sadwrn.

Dyma oedd y chweched golled yn olynol oddi cartref i'r Elyrch wrth i'r pwysau gynyddu arnyn nhw i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Etienne Capoue sgoriodd unig gôl y gêm i Watford ar ôl 42 munud yn dilyn camgymeriad gan amddiffynnwr Abertawe, Alfie Mawson.

Mae'r golled yn golygu bod Abertawe yn parhau yn y 18fed safle, dau bwynt tu ôl i Hull sydd un safle yn uwch.