Dydd y Farn: Gleision 35 - 17 Gweilch

  • 15 Ebrill 2017
Gleision v Gweilch Image copyright Getty Images
Image caption Dyma oedd pedwaredd colled y Gweilch yn olynol

Yn gêm gyntaf 'Dydd y Farn' yn Stadiwm y Principality fe ennillodd y Gleision yn gyfforddus yn erbyn y Gweilch.

Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf y Gleision dros y Gweilch yn y Pro 12 ers 2010.

Kristian Dacey, Lloyd Williams a Nick Williams groesodd i'r Gleision wrth iddyn nhw fynd fewn i'r egwyl ar y blaen o 21 - 3.

Croesodd Taufa'ao Filise a Gareth Anscombe hefyd i selio pwynt bonws.

Er i'r Gweilch sgorio dau gais yn yr ail hanner drwy Dan Evans a Paul James, fe allai nhw ddisgyn o'r pedwar uchaf yn dilyn ei pedwaredd colled yn olynnol.