'Dydd y Farn': Dreigiau 16 - 21 Scarlets

Dreigiau v Scarlets Image copyright Getty Images

Llwyddodd y Scarlets i drechu'r Dreigiau gyda'r ddau dîm yn sicrhau pwynt bonws yn ail gêm 'Dydd y Farn' yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.

Roedd y sgôr yn 6-3 i'r Dreigiau ar ddiwedd hanner cyntaf digon di fflach. Angus O'Brien giciodd yn gywir ddwy waith i'r Dreigiau a Dan Jones i'r Scarlets.

Yn yr ail hanner, canolwr y Scarlets Jonathan Davies groesodd am y cais agoriadol o'r gêm ar ôl i Adam Hughes o'r Dreigiau weld y garden felen ar yr awr.

Croesodd Liam Williams i ychwanegu at bwyntiau'r Scarlets a gwneud y sgôr yn 9 - 21.

Yn munudau olaf y gêm fe gafodd y Dreigiau cais gysur ar gyda'r asgellwr Adam Hughes yn croesi.

'Siomedig'

Roed y cais yn bwysig i ddynion Kingsley Jones wrth iddyn nhw sicrhau pwynt bonws er iddyn nhw golli'r gêm.

Blaen asgellwr y Dreigiau Ollie Griffiths gafodd ei gadarnhau fel seren y gêm.

Dywedodd capten y Scarlets Ken Owens a'r ddiwedd y gêm ei fod yn "siomedig gyda'r perfformiad ar y cyfan a bod y Scarlets wedi gwneud digon i haeddu'r fuddugoliaeth."

Mae'r Scarlets bellach yn y trydydd safle yn nhabl y Pro 12 gyda 67 o bwyntiau, un safle'n uwch na'r Gweilch sydd ar 65 pwynt, tra bod y Dreigiau yn degfed safle.