60,000 o bobl yn mwynhau 'Dydd y Farn' yng Nghaerdydd

  • 15 Ebrill 2017
Dydd y Farn Image copyright Getty Images
Image caption Roedd torf o 60,000 yn gwylio 'Dydd y Farn' yn Stadiwm y Principality

Gyda 60,000 o docynau wedi gwerthu ar gyfer 'Dydd y Farn' yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, y Gleision a'r Scarlets oedd y rhanbarthau buddugol yn y ddwy gêm.

Gleision 35 - 17 Gweilch

Yn gêm gyntaf 'Dydd y Farn' fe ennillodd y Gleision yn gyfforddus yn erbyn y Gweilch.

Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf y Gleision dros y Gweilch yn y Pro 12 ers 2010.

Kristian Dacey, Lloyd Williams a Nick Williams groesodd i'r Gleision wrth iddyn nhw fynd fewn i'r egwyl ar y blaen o 21 - 3.

Croesodd Taufa'ao Filise a Gareth Anscombe hefyd i selio pwynt bonws.

Er i'r Gweilch sgorio dau gais yn yr ail hanner drwy Dan Evans a Paul James, fe allai nhw ddisgyn o'r pedwar uchaf yn dilyn ei pedwaredd colled yn olynnol.

Image copyright Getty Images
Image caption Dyma oedd pedwaredd colled y Gweilch yn olynol

Dreigiau 16 - 21 Scarlets

Llwyddodd y Scarlets i drechu'r Dreigiau gyda'r ddau dîm yn sicrhau pwynt bonws yn ail gêm 'Dydd y Farn'.

Roedd y sgôr yn 6-3 i'r Dreigiau ar ddiwedd hanner cyntaf digon di fflach. Angus O'Brien giciodd yn gywir ddwy waith i'r Dreigiau a Dan Jones i'r Scarlets.

Yn yr ail hanner, canolwr y Scarlets Jonathan Davies groesodd am y cais agoriadol o'r gêm ar ôl i Adam Hughes o'r Dreigiau weld y garden felen ar yr awr.

Croesodd Liam Williams i ychwanegu at bwyntiau'r Scarlets a gwneud y sgôr yn 9 - 21.

Yn munudau olaf y gêm fe gafodd y Dreigiau cais gysur ar gyda'r asgellwr Adam Hughes yn croesi.

Dywedodd capten y Scarlets Ken Owens a'r ddiwedd y gêm ei fod yn "siomedig gyda'r perfformiad ar y cyfan a bod y Scarlets wedi gwneud digon i haeddu'r fuddugoliaeth."

Mae'r Scarlets bellach yn y trydydd safle yn nhabl y Pro 12 gyda 67 o bwyntiau, un safle'n uwch na'r Gweilch sydd ar 65 pwynt, tra bod y Dreigiau yn degfed safle.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Jonathan Davies yn sgorio cais cyntaf y gêm i'r Scarlets