Sir Gaerwrangon mewn sefyllfa dda yn erbyn Morgannwg

  • 15 Ebrill 2017
Criced

Roedd sir Gaerwrangon mewn sefyllfa dda ar ddiwedd yr ail ddiwrnod o chwarae yn erbyn Morgannwg yng Nghaerdydd.

Dechreuodd Morgannwg yn dda gyda Jacques Rudolph a Nick Selman yn llwyddo i gael 74 rhediad cyn y wiced gyntaf.

Llwyddodd Swydd Gaerwrangon i gael tair wiced am 34 o rediadau i wneud cyfanswm Morgannwg yn 108-3, ond erbyn diwedd y dydd roedd Colin Ingram yn 41 heb fod ac roedd Aneurin Donald yn i fatio erbyn diwedd y prynhawn.

Mae Morgannwg bellach 143 - 3 ar ddiwedd yr ail ddiwrnod o chwarae.