Heddlu'n canfod cwch gwag dyn oedrannus sydd ar goll

  • 16 Ebrill 2017
Arthur Ray Taylor a chlwb cychod Gwbert Image copyright Llun teulu / Google
Image caption Mae'r heddlu yn dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i'r cwch ond does dim sôn am Mr Taylor.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn chwilio am ddyn oedrannus sydd ar goll ar ôl iddo fynd allan yn ei gwch ym mae Ceredigion.

Cafodd Arthur Ray Taylor sy'n naw deg oed ei weld diwethaf yn gadael clwb cychod Gwbert am 09:30 fore Sadwrn.

Mae'r heddlu yn dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i'r cwch ond does dim sôn am Mr Taylor.

Mae Gwylwyr y Glannau wedi ymuno yn yr ymdrech i ddod o hyd i Mr Taylor, ond byddant nawr yn aros nes bydd llanw isel am 18:00 cyn parhau i chwilio.