Medal aur i Elinor Barker yn y ras bwyntiau 25km

  • 16 Ebrill 2017
Elinor Barker Image copyright Getty Images
Image caption Mae Elinor Barker eisoes wedi ennill dwy fedal arian yn y bencampwriaeth

Mae'r seiclwr o Gaerdydd, Elinor Barker wedi ennill y fedal Aur i dîm Prydain ym Mhencampwriaethau Seiclo'r byd yn Hong Kong.

Llwyddodd Barker i ennill y ras bwyntiau 25km i ferched.

Mae'r Gymraes eisoes wedi ennill dwy fedal arian yn y bencampwriaeth.

Fe ddaeth hi'n ail yn y ras 40 lap ac yn ail gyda'r Gymraes arall Emily Nelson yn y ras Madison ddydd Sadwrn.