Gwirfoddolwr yn gadael wedi sylw ar y we

Gwalch Image copyright Ymddiriedolaeth bywyd gwyllt Sir Drefaldwyn

Mae gwarchodfa adar wedi amddiffyn ei penderfyniadau a wnaed ynghylch diogelwch gweilch yn dilyn beirniadaeth ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae rhai pobl yn beirniadu ymateb gweithwyr prosiect Dyfi a Glaslyn pan fydd cyw yn sâl neu wedi'i anafu.

Mae rhai yn dweud dylai'r gweithwyr ymateb yn syth ac eraill yn dadlau na ddylid ymyrryd o gwbl gyda'r adar gwyllt.

Dywedodd rheolwr prosiect gwarchodfa Dyfi, Emyr Evans bod y feirniadaeth wedi dod ynglŷn â'r gweilch sy'n nythu yng Nglaslyn: "Mae bygythiadau wedi cael ei gwneud, rhai yn bersonol iawn", meddai.

Mae'r warchodfa wedi cael ei beirniadu hefyd am ei dulliau modrwyo adar - gweithred yn ôl Mr Evans sydd wedi bod yn cael ei defnyddio ers dros ganrif.

'Torcalonnus'

Yn dilyn y feirniadaeth mae un o fodrwywyr y prosiect sydd gyda degawdau o brofiad wedi rhoi'r gorau iddi.

"Mae modrwywyr ymhlith y gweithwyr maes sydd yn cael eu parchu fwyaf yn y byd adar, ac mae'r rhan fwyaf yn gwneud y gwaith yn wirfoddol," meddai Mr Evans.

"Mae hi'n dorcalonnus bod modrwywr gyda degawdau o brofiad yn rhoi'r gorau iddi ac yn teimlo i'r byw yn dilyn beirniadaeth gan garfan fechan o bobl," ychwanegodd.

Image copyright Ymddiriedolaeth bywyd gwyllt Sir Drefaldwyn

Yn ystod y ddegawd gyntaf yng Nglaslyn, Gwynedd, roedd dau neu dri gwalch yn cael ei geni yn flynyddol, sydd tu hwnt i'r cyfartaledd cenedlaethol o 200-300% meddai Mr Evans mewn datganiad gafodd ei ryddhau gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Glasl

Yn 2016 cafodd llun o aderyn gydag anafiadau posib yn dilyn ei ddisodli o nyth ei dynnu yng ngwarchodfa Dyfi ger Machynlleth. Fe wnaeth yr un peth ddigwydd yng Nglaslyn hefyd.

"Tydi hyn bron erioed wedi digwydd o'r blaen," meddai Mr Evans.

'Anrhagweladwy'

Fe wnaeth rhai o'r cywion gael eu hanafu, gyda dau yn goroesi ond un yn marw.

"Y tro nesaf bydd cyw wedi'i anafu neu walch mewn gofid, y peth diwethaf rydym am wneud yw pryderu beth mae rhai pobl, falle sy'n byw filoedd o filltiroedd i ffwrdd, yn ei feddwl o'n penderfyniadau.

"Does gan gamdriniaeth ddim lle mewn cymdeithas.

"Ar yr arwydd cyntaf o salwch neu anaf, does dim modd i ni ddringo coeden 100 troedfedd a chael criw o bobl at ei gilydd.

"Mae 'na bob mathau o ganlyniadau gwahanol i achosion fel hyn, rhai yn gyfreithiol ac mae rhaid i ni ystyried diogelwch y bobl sydd yn ymwneud a'r gwaith hefyd.

"Adar gwyllt yw'r rhain, dyma yw natur, mae rhai achosion yn anrhagweladwy ac yn bendant nid byd ffantasi yw hwn," meddai, Mr Evans.yn.