Morgannwg yn colli o wyth wiced yn erbyn Sir Gaerwrangon

  • 16 Ebrill 2017
Criced

Colli o wyth wiced cyn cinio oedd hanes Morgannwg ar drydydd diwrnod yr ornest yn erbyn Sir Gaerwrangon ddydd Sul.

Dyma ail golled Morgannwg yn olynol yn dilyn dechrau siomedig i'r tymor.

Fe gollodd Sir Gaerwrangon ddwy wiced gynnar ddydd Sul.

Dim ond 28 rediad oedd angen ar yr ymwelwyr ac roedd y cyfan ar ben erbyn amser cinio yng Nghaerdydd ar ôl (5:3) pelawd.