Anafiadau mewn cystadleuaeth beic modur ger Aberteifi

hofrennydd
Image caption Cafodd un o'r tri ei gludo i Ysbyty Treforys mewn ambiwlans awyr

Mae tri o gystadleuwyr mewn ras beic modur ym Mhenparc ger Aberteifi wedi'i anafu.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn ystod ras Pencampwriaeth Cymru yn fferm Crugmore, Penparc ddydd Sul.

Cafodd un o'r tri ei gludo i Ysbyty Treforys mewn ambiwlans awyr.

Fe aeth y ddau arall mewn ambiwlans i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Does dim rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyflwr y tri.