Rygbi Gogledd Cymru yn ennill y Gwpan Genedlaethol

  • 16 Ebrill 2017
Tiaan Loots Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sgoriodd Tiaan Loots un o geisiau RGC wrth iddyn nhw greu hanes yn Stadiwm y Principality

Ym mhrif gêm y dydd, ennill oedd hanes Rygbi Gogledd Cymru 1404 (RGC) yn rownd derfynol y Gwpan Genedlaethol o 15 - 11 yn erbyn Pontypridd ddydd Sul.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod y Gogleddwyr yn creu hanes wrth iddyn nhw ennill yn eu hymddangosiad cyntaf yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.

Llwyddodd Pontypridd i wthio RGC hyd y diwedd mewn rownd derfynol gyffrous ond roedd cicio cywir seren y gêm Jacob Botica a ceisiau Tiaan Loots a Ross Davies yn ddigon i RGC godi'r Gwpan Genedlaethol.

Sgoriodd Pontypridd gais drwy Lewis Williams a ciciodd Ben Jones dwy gic gosb, ond er i RGC fynd lawr i 13 dyn yn dilyn dau gerdyn melyn fe safodd eu hamddiffyn yn gadarn.

Shane Williams

Yn y rowndiau terfynol eraill ddydd Sul yn Stadiwm y Principality, llwyddodd Yr Aman i ennill 43 - 31 yn erbyn Caerffili yn rownd derfynol y Bowlen gyda chyn chwaraewr rhyngwladol Cymru Shane Williams yn serennu i'w bentref lleol.

Gorffennodd yr ail gêm rhwng Penallta ac Ystalyfera yn gyfartal 16 pwynt yr un, ond Penallta gododd y darian genedlaethol drwy gyfanswm ceisiau.

Daeth cadarnhad bod dros 9,000 o bobl wedi mynychu'r stadiwm i wylio un o'r tair rownd derfynol.