Plymouth Argyle 6-1 Casnewydd

plymouth Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe gafodd Casnewydd gêm gyfartal yn Plymouth yng Nghwpan yr FA yn gynharach y tymor hwn

Plymouth Argyle 6-1 Casnewydd

Roedd y canlyniad i Gasnewydd ar eu hymweliad â Plymouth yn siomedig os nad yn annisgwyl.

Roedd y tîm cartref ond angen gêm gyfartal i sicrhau dyrchafiad i Adran Un, ond roedd gwir angen buddugoliaeth ar Gasnewydd er mwyn osgoi cwympo o'r gynghrair.

Plymouth oedd yn rheoli cyfnod cynnar y gêm, a doedd hi'n ddim syndod eu gweld yn mynd ar y blaen wedi 39 munud pan beniodd Matthew Kennedy i'r rhwyd.

Prin fod Casnewydd wedi dechrau arfer gyda hynny pan wnaeth ergyd Jake Jervis ddyblu mantais Plymouth gydag ergyd â'i droed chwith.

Roedd Plymouth yn rheoli'n llwyr, ac fe aethon nhw ymhellach ar y blaen wedi 52 munud drwy ergyd Graham Carey.

Parhau yn agos

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gasnewydd, ac fe fydd y rheolwr yn pryderu am wahaniaeth goliau gan i Plymouth sgorio pedwaredd diolch i Ryan Taylor.

Doedd yr ymwelwyr heb orffen ac fe gafodd Kennedy ei ail yn y gêm i'w gwneud hi'n bump, cyn i Jervis gael y chweched.

Roedd amser o hyd i Gasnewydd leihau'r difrod ac fe ddaeth gôl gysur i Aaron Williams yn y funud olaf i'w gwneud hi'n 6-1.

Roedd hi'n ddiwrnod gwael i'r Alltudion o safbwynt y timau eraill tua gwaelod Adran Dau hefyd, wrth i Cheltenham a Yeovil ennill eu gemau nhw i dynnu'n glir o'r tri gwaelod.

Ond gan i Hartlepool golli hefyd, mae'n ymddangos bellach mai brwydr rhwng Casnewydd a Hartlepool fydd hi i gadw'u statws yn y Gynghrair Bêl-droed.

Mae Casnewydd bwynt y tu ôl i Hartlepool gyda'r ddau dîm â thair gêm yn weddill.