Caerdydd 1-0 Nottingham Forest

gunarsson Image copyright Huw Evans picture agency

Caerdydd 1-0 Nottingham Forest

Gyda dyfodol yr Adar Gleision yn y Bencampwriaeth yn ddiogel, a dim gobaith chwaith am ddyrchafiad, roedd hon yn gêm ddi-ddim i Gaerdydd.

Roedd dyfodol Nottingham Forest, ar y llaw arall, yn dibynnu ar ganlyniad cadarnhaol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Doedd dim syndod felly wrth weld yr ymwelwyr yn cael y mwyafrif o'r meddiant yn yr hannner cyntaf, ond mewn hanner hynod ddi-fflach ni lwyddodd yr un o'r ddau dîm i gael ergyd at y gôl.

Fe wellodd Caerdydd yn sylweddol wedi'r egwyl gyda Kenneth Zohore yn dod yn agos fwy nag unwaith.

Ond roedd Forest yn fwy penderfynol hefyd wrth geisio osgoi disgyn a bu'n rhaid i Bruno Manga benio'r bêl allan am gornel o dan ei drawst ei hun.

Ond fe ddaeth gôl, a phan ddaeth hi roedd hi'n un gampus i Gaerdydd wrth i Aron Gunnarsson danio ergyd o 25 llath i gornel y rhwyd.

Daeth y gôl wedi 70 munud, ond er gwaetha' ymdrechion yr ymwelwyr, doedd dim mwy o sgorio.