Cwch gwag: Parhau i chwilio am ddyn 90

Arthur Ray Taylor a chlwb cychod Gwbert Image copyright Llun teulu / Google
Image caption Mae'r heddlu yn dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i'r cwch ond does dim sôn am Mr Taylor.

Mae'r heddlu a gwylwyr y glannau parhau i chwilio ddydd Mawrth am ddyn 90 oed aeth ar goll wedi iddo fynd allan ar ei gwch.

Gadawodd Arthur Roy Taylor, sy'n cael ei adnabod fel Archie, ei lety am tua 09:30 fore Sadwrn i fynd â'i gwch allan o glwb hwylio Gwbert yng Ngheredigion.

Mae hofrennydd yr heddlu wedi bod yn cynorthwyo'r chwilio amdano wedi i'w gwch gael ei ddarganfod ddydd Sul, ond doedd dim golwg o Mr Taylor.

Roedd gwylwyr y glannau wedi dweud ddydd Sul ei bod yn "anhebygol" y byddai'r chwilio'n parhau os na fyddai tystiolaeth newydd yn dod i law.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi apelio am luniau fideo neu ffotograffau gan y cyhoedd oedd yn ardal Gwbert fore Sadwrn rhag ofn eu bod wedi gweld Mr Taylor yn hwylio.

Cafodd ei ddisgrifio fel dyn 5'4" o daldra gyda gwallt wedi britho, ac roedd yn gwisgo siwmper las tywyll a siaced gwrth-ddŵr lliw llwyd tywyll.

Straeon perthnasol