Teyrngedau wedi'u rhoi i'r cyfarwyddwr Michael Bogdanov

Michael Bogdanov
Image caption Fe wnaeth Michael Bogdanov gyfarwyddo wyth cynhyrchiad i'r Royal Shakespeare Company

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyfarwyddwr o Gymru oedd yn "ffrind da" ac yn "uchel ei barch yn y byd theatr".

Bu farw Michael Bogdanov, 78 ac yn wreiddiol o Gastell-nedd, o drawiad ar y galon tra ar ei wyliau ar ynys Paros yng ngwlad Groeg.

Roedd yn adnabyddus fel cyfarwyddwr cynhyrchiadau o waith Shakespeare, a bu'n gweithio mewn sawl gwlad gan gynnwys yr Almaen, yr Eidal a'r UDA.

Bu'n gyfarwyddwr ar gwmnïau theatr a dramâu gyda'r Royal Shakespeare Company, y Royal Opera House, Sydney Opera House, y Burgtheater yn Fienna, ar Broadway a'r West End, ac roedd yn brif weithredwr ar Deutsches Schauspielhaus yn Hamburg, theatr genedlaethol fwyaf yr Almaen, rhwng 1989 ac 1992.

Roedd hefyd yn hoff iawn o waith Dylan Thomas, ac yn ystod canmlwyddiant geni'r bardd yn 2014 fe drefnodd farathon darllen 36 awr o'i holl waith yn Theatr y Grand Abertawe.

'Barod i helpu'

Cafodd Michael Bogdanov ei addysg yng ngholeg y Drindod, Dulyn cyn dechrau ei yrfa yn cynhyrchu a chyfarwyddo ar gyfer teledu yn y DU ac Iwerddon.

Cyfarwyddodd sawl cynhyrchiad ar draws y byd yn ystod ei yrfa, gan gynnwys nifer o ddramâu Shakespeare, ac eraill gan gynnwys sioeau cerdd fel Amazing Grace a Hair, a'i fersiwn ei hun o chwedl Beowulf.

Bu'n rhan o sefydlu'r Wales Theatre Company, ac fe weithiodd ar y cyd gyda Gareth Miles ar gynhyrchiad dwyieithog o Hamlet oedd yn defnyddio'r un cast.

Roedd hefyd yn aelod o Gymdeithas Dylan Thomas, a dywedodd eu cadeirydd Geoff Haden fod Michael Bogdanov wedi gweithio'n galed i sicrhau llwyddiant y dathliadau i'r bardd o Dalacharn.

Image copyright Francis Reiss/PicturePost/Getty
Image caption Fe wnaeth Michael Bogdanov gynhyrchu drama Under Milk Wood gan Dylan Thomas ar sawl achlysur, gan gynnwys un fersiwn Siapaneaidd

"Roedd yn brosiect uchelgeisiol yr oedd Michael wedi ei gynllunio ers blynyddoedd ac roedd yn adlewyrchiad o'i barch uchel o fewn y byd theatr ei fod wedi perswadio sêr fel Syr Ian McKellen, Sian Phillips a Nicholas Parsons i gymryd rhan.

"Roedd Michael yn ffrind da oedd wastad yn barod i helpu hyrwyddo gwaith ei dref enedigol ac wastad wrth ei fodd yn aros yng nghartref Dylan."

Ychwanegodd y cyfansoddwr Mal Pope mewn neges ar Twitter: "Mor drist o glywed y newyddion. Roedd yn ddyn hyfryd a lliwgar wnaeth newid fy mywyd.

"Roedden ni newydd ddechrau gweithio gyda'n gilydd eto."