Cynghrair y Pencampwyr: Y Gwpan i fynd ar daith

Cwpan Image copyright AFP/GETTY

Bydd cwpan Cynghrair y Pencampwyr yn mynd ar daith o amgylch Cymru cyn y ffeinal sydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 3 Mehefin.

Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn teithio gyda chyn ymosodwr Cymru Ian Rush i'r Swistir ar 21 Ebrill i hebrwng y gwpan o bencadlys UEFA.

Fe fydd y gwpan yn cael ei chroesawu i'r brifddinas gyda gorymdaith o Gastell Caerdydd i Stadiwm Principality.

Yna bydd yn mynd ar daith o amgylch Cymru gan ymweld ag ysgolion, clybiau a lleoliadau cyhoeddus.

Bydd cwpan Cynghrair Pencampwyr y Merched hefyd yn rhan o'r daith. Bydd ffeinal y merched yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Iau 1 Mehefin.

Mae ail gymal gemau chwarteri'r dynion yn cael eu cynnal yr wythnos hon.

Image copyright Getty Images
Image caption Ian Rush - cyn ymosodwr Cymru

Taith cwpan Cynghrair Pencampwyr UEFA - dyddiadau ymddangosiadau cyhoeddus:

Gwener 21 Ebrill: 16:45 Cyrraedd Cymru a mynd ar daith o Gastell Caerdydd i Stadiwm y Principality

Sadwrn 22 Ebrill: 13:30-15:00 Stadiwm Liberty, Abertawe

Sul 23 Ebrill: 16:00-20:00 Clwb Pêl-droed Aberystwyth

Llun 24 Ebrill: 14:00-19:00 Clwb Pêl-droed Dinas Bangor

Mawrth 25 Ebrill: 17:00-18:30 Clwb Pêl-droed Llandudno

Mercher 26 Ebrill: 18:00-20:00 Clwb Pêl-droed Y Bala

Sadwrn 29 Ebrill: Castell Biwmares - drwy'r dydd

Sul 30 Ebrill: 11:00-17:00 Portmeirion

Llun 1 Mai: 18:00-20:00 Clwb Pêl-droed Derwyddon Cefn, Wrecsam

Iau 4 Mai: 10:00-16:00 canol tref Hwlffordd

Sadwrn 6 Mai: 09:00-11:00 Clwb Pêl-droed Y Drenewydd, 13:00-15:00 Canolfan Hamdden Aberhonddu, 17:00-20:00, Clwb Pêl-droed Merthyr

Sul 7 Mai: 10:00-14:00 Dinbych y Pysgod

Llun 8 Mai: 14:00-16:00 Canolfan Siopa Friars Walk, Casnewydd, 18:00-20:00 Stadiwm Cwmbrân