Cyhuddo dyn o achosi marwolaeth Susan Owen ym Mhentir

  • 18 Ebrill 2017
Susan Jane Owen Image copyright Llun teulu
Image caption Bu farw Susan Jane Owen yn y digwyddiad ym Mhentir ar 23 Medi y llynedd

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth dynes mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd y llynedd.

Bu farw Susan Jane Owen, 50 oed o Bentre Berw, Ynys Môn, yn y gwrthdrawiad rhwng ei char BMW gwyn a fan Volkswagen ar y B4547 ym Mhentir ar 23 Medi.

Mae dyn 30 oed o Walchmai, Ynys Môn, wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau.