Torri tir newydd yn Eglwys Llanbadarn Fawr

Eglwys Llanbadarn Fawr

Mae offeren Gatholig wedi cael ei chynnal yn eglwys Llanbadarn Fawr yn Aberystwyth brynhawn Sadwrn.

Credir mai dyma'r offeren Gatholig gyntaf sydd wedi bod yn Eglwys Llanbadarn ers oes Brotestannaidd Elisabeth y Cyntaf.

Mae'n debyg mai hon oedd yr offeren Gatholig Gymraeg gyntaf i'w dathlu yn eglwys Llanbadarn Fawr.

Mae'r offeren yn un o ddathliadau'r flwyddyn i gofio dyfodiad Padarn Sant i ardal Llanbadarn Fawr yn y chweched ganrif.

Cafodd ei threfnu gan Y Cylch Catholig ar y cyd â Gweithgor Padarn Sant.

Cofio Padarn Sant

Cafodd y gweithgor ei sefydlu yn 2015 yn arbennig i baratoi rhaglen o weithgareddau er mwyn tynnu sylw trigolion Aberystwyth a thu hwnt at Sant Padarn.

Fe ddaeth Padarn i Geredigion yn y flwyddyn 517 gan sefydlu tair eglwys.

Un o'r rheiny oedd eglwys Llanbadarn Fawr - un o eglwysi mwyaf Esgobaeth Tyddewi.

Mae'n debyg mai eglwys Henfynyw ac eglwys ar dir Gogerddan oedd y ddwy eglwys arall.

Cafodd yr offeren ei chynnal ddydd Sadwrn am 16:30 drwy gyfrwng y Gymraeg yn eglwys Llanbadarn Fawr.

"Rydym yn dra diolchgar i'r Parchedig Ganon Andrew Loat, ficer Llanbadarn Fawr, am ganiatáu inni gynnal yr offeren yn eglwys Padarn Sant," meddai Dafydd Pritchard ar ran y trefnwyr cyn yr offeren.

"Bu'r trafod a'r cyd-weithio yn hyfryd o rwydd.

"Mae'n siwr mai hwn fydd y tro cyntaf i offeren Gatholig gael ei dathlu yn yr eglwys oddi ar y Diwygiad Protestannaidd, a chan mai Lladin oedd iaith y dathlu yn y dyddiau hynny, hon felly fydd yr offeren Gatholig Gymraeg gyntaf i'w dathlu yn eglwys Llanbadarn Fawr.

"Er mai offeren Gatholig fydd hi, rydym wedi gwahodd pobl o bob traddodiad i fynychu, ac mae croeso i bawb.

"Dylai brofi i fod yn achlysur eciwmenaidd o'r iawn ryw, hefyd. Er fod Padarn yn ffigwr o bwys i ni yn lleol, mae o hefyd o bwys cenedlaethol, a disgwyliwn y bydd Catholigion ac eraill o bob cwr o Gymru yn ymuno â ni.

"Rydym yn falch iawn mai cadeirydd y Cylch Catholig, Y Gwir Barchedig Edwin Regan, Esgob Emeritws Wrecsam fydd yn dathlu'r offeren.

"Bu ei ofal am y Gymraeg o fewn yr Eglwys Gatholig yng Nghymru yn ddi-flino ar hyd y blynyddoedd."