Heddlu'n trin marwolaeth Katrina Evemy fel llofruddiaeth

Katrina Evemy Image copyright Heddlu Dyfed-Powys/Google
Image caption Mae Heddlu Dyfed-Powys bellach yn trin marwolaeth Katrina Evemy fel achos o lofruddiaeth

Mae'r heddlu yn trin marwolaeth dynes o Lanelli fel achos o lofruddiaeth wedi iddi farw yn yr ysbyty fore Mercher.

Roedd Katrina Evemy, 19, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad yn ei chartref yn Rhodfa'r Graig brynhawn Iau.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys bod swyddogion bellach yn trin y farwolaeth fel achos o lofruddiaeth.

Dydd Llun fe ymddangosodd Dylan Hywel Harries, 21, yn Llys Ynadon Llanelli ar gyhuddiad o geisio llofruddio.

Cafodd Harries, o Banteg, Llanelli, ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf yn y llys.

Mae swyddogion yn dal i apelio ar unrhyw dyst i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.

Straeon perthnasol