Y seiciatrydd Dr Brian Harris yn euog o ymosodiad rhyw

Dr Brian Harris
Image caption Mae'r erlyniad yn honni i Dr Brian Harris gyflawni'r troseddau dros gyfnod o 30 mlynedd

Mae seiciatrydd ymgynghorol wedi ei gael yn euog o ymosodiad rhyw ar gynorthwyydd iechyd meddwl yn Rhondda Cynon Taf.

Cafwyd Dr Brian Harris, 77, yn ddieuog o ddau gyhuddiad o dreisio claf arall, ac o ddau gyhuddiad o orfodi i glaf gymryd rhan mewn gweithred rhyw heb gydsyniad.

Daw wedi iddo ei gael yn ddieuog o ddau gyhuddiad arall ddydd Mercher.

Mae'r rheithgor yn Llys y Goron Merthyr Tudful yn parhau i drafod chwe chyhuddiad arall o ymosodiad anweddus ac ymosodiad rhyw ar dri dyn arall.

Mae'r erlyniad yn honni i Dr Harris gyflawni'r troseddau dros gyfnod o 20 mlynedd rhwng 1991 a 2011.

Roedd yn wynebu 13 cyhuddiad, ac mae wedi ei gael yn euog o un, ac yn ddieuog o chwe hyd yn hyn.

Mae'r barnwr wedi dweud ei fod yn barod i dderbyn dyfarniad mwyafrif ar y cyhuddiadau sy'n weddill, cyhyd â bod o leiaf 10 yn cytuno.