Llafur â 'mynydd i'w ddringo' yn yr etholiad cyffredinol

Carwyn Jones
Image caption Carwyn Jones a chyd ymgyrchwyr Llafur ym Mhen-y-bont ddydd Iau

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn dweud bod gan y blaid Lafur "fynydd i'w ddringo" yn yr etholiad cyffredinol.

Hwn oedd ymddangosiad cyntaf Mr Jones ers y cyhoeddiad annisgwyl yn gynharach yr wythnos hon o'r bwriad i gynnal y bleidlais ar 8 Mehefin.

Ddydd Mercher, pleidleisiodd dwy ran o dair o ASau dros gynnal etholiad ar 8 Mehefin.

'Teilwra'r neges'

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru wrth ymgyrchu ym Mhen-y-bont, dywedodd Mr Jones fod angen i'r blaid "deilwra ein neges" yn dibynnu ar ba y wlad y mae'n ymgyrchu ynddi.

"Mae'r Torïaid yn cynnig yr un hen bethau, ond rydyn ni'n cynnig dewis amgen."

Awgrymodd arolwg barn YouGov UK ym mhapur newydd y Times ddydd Iau fod 48% o gefnogaeth i'r Ceidwadwyr, gyda Llafur ar 24%.

Cyn hyn, mae'r prif weinidog wedi dweud y byddai'n anodd i Lafur golli seddi.

Image caption Dywedodd Carwyn Jones y bydd yn ymgyrchu gyda Jeremy Corbyn pan fydd yn ymweld â Chymru

Dywedodd Mr Jones ei bod hi'n ymddangos fod Theresa May yn trin yr ymgyrch hon fel un am Brexit, ond ei fod e'n credu mai cyflwr gwasanaethau cyhoeddus yn Lloegr oedd dan y chwyddwydr mewn gwirionedd.

"Mae yna fynydd i'w ddringo, does dim amheuaeth am hynny," meddai.

"Rydyn ni'n gwybod fod pobl eisiau gweld dewisiadau eraill," meddai.

"Dewis gwleidyddol yw cynilo'n ariannol, nid angen economaidd."

'Barus am rym'

Dywedodd nad oedd pethau'n hawdd i Lafur, ond bod y blaid wedi wynebu "anhawsterau mawr yn y gorffennol".

Ychwanegodd: "Jeremy [Corbyn] sy'n arwain yr ymgyrch, ac fe fydda i gydag e pan ddaw e i Gymru."

Pan ofynnwyd iddo a fyddai yna ddŵr coch clir rhwng Llafur Cymru a Llafur y DU, dywedodd: "Na, dwi'n credu mai cwestiwn o deilwra'r neges yn ôl y wlad ry chi'n ymgyrchu ynddi sydd ei angen.

"Fy mhryder i yw y bydd y Toriaid yn ein defnyddio ni fel ffordd o wasgu'r cenhedloedd Celtaidd.

"Maen nhw'n farus am rym. Maen nhw'n benderfynol o ganoli pŵer yn San Steffan.

"Rhaid i bobl Cymru anfon neges iddyn nhw, neges nad ydyn nhw'n fodlon i bobl gerdded drostyn nhw."