Buddugoliaeth FA Caerdydd ym 1927 yn 'ddathliad cenedl'

Caerdydd Cwpan FA Lloegr Image copyright Arall
Image caption Tîm Caerdydd gyda'r cwpan wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Arsenal o gôl i ddim

Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal ddydd Sul i gofio buddugoliaeth hanesyddol Caerdydd yn erbyn Arsenal yng Nghwpan FA Lloegr union 90 mlynedd yn ôl.

Fe gurodd yr Adar Gleision Arsenal o gôl i ddim yn Wembley, ar ddydd Sant Siôr, 23 Ebrill 1927 - yr unig dro yn ei hanes i'r cwpan fynd allan o Loegr.

Mae diwrnod o weithgareddau'n cael eu cynnal yn Amgueddfa Stori Caerdydd i nodi'r fuddugoliaeth - buddugoliaeth, yn ôl awdur llyfrau ar hanes pêl-droed Cymru, a oedd yn achos dathlu cenedlaethol ar y pryd.

"Rhaid cofio fod pobl o bob rhan o Gymru wedi teithio i Lundain ar gyfer y gêm," meddai Phil Stead.

"Y mwyafrif ohonyn nhw ar y trenau wrth gwrs. Roedd yna gefnogwyr o bob rhan o'r wlad."

Image copyright Rolant Dafis/Graham Budd Auctions
Image caption Criw o gefnogwyr ar Sgwâr Trafalgar ar fore'r 23 Ebrill 1927, cyn y gêm rhwng Caerdydd ac Arsenal

"Doedd hi ddim yn hawdd i gefnogwyr gyrraedd Llundain bryd hynny - roedd o'n beth mawr cael mynd yno.

"Mae o dipyn bach fel mae cefnogwyr pêl-droed heddiw'n teithio i wledydd fel Montenegro neu Belarus."

Ac yn ôl Mr Stead, mae llun, a fydd yn rhan o arwerthiant yn Sotheby's yn Llundain ymhen rhai wythnosau, yn enghraifft dda o'r gefnogaeth genedlaethol.

Mae'r llun yn dangos 10 o gefnogwyr yn gwisgo hetiau a rosettes y clwb, dan y teitl Bangor's Day - The Penrhyn Contingent.

"Dwi erioed wedi ei weld o'r blaen, a dwi 'di gwneud llawer o ymchwil i'r gêm dros y blynyddoedd.

"Mae'n llun arbennig iawn. Mae'n enghraifft dda o'r gefnogaeth dda oedd o gwmpas Cymru gyfan ar gyfer Caerdydd yn y Cwpan FA.

"Dwi'n geshio mai gweithwyr o Chwarel y Penrhyn oedden nhw, er y gallen nhw fod yn weithwyr yng nghastell y Penrhyn."

Image copyright Arall
Image caption Roedd dros 93,000 yn y dorf yn Wembley

Yn ôl archifydd clwb pêl-droed Caerdydd, Richard Shepherd, roedd 40,000 o Gymry yn y dorf o dros 93,000 yn Wembley y diwrnod hwnnw.

"Ddwy flynedd ynghynt, pan gyrhaeddodd Caerdydd y rownd derfynol yn 1925, roedd 16,000 o docynnau wedi eu neulltio i gefnogwyr Caerdydd, ond yn 1927, dim ond 3,750 o docynnau gafodd eu rhoi.

"Serch hynny, roedd modd gwneud ceisiadau unigol, ac fe deithiodd 40,000 o Gymry i'r gêm.

"Roedd hon yn cael ei hystyried yn ornest rhwng Cymru a Lloegr, er, rhaid cofio mai dim ond tri Chymro oedd yn nhîm Caerdydd - Fred Keenor, Len Davies ac Ernie Curtis - a bod dau o chwarewyr Arsenal yn Gymry - y golwr Dan Lewis o'r Maerdy a Bob John o'r Barri.

"Fe anfonodd clybiau pêl-droed eraill mwya Cymru ar y pryd - Abertawe, Aberdâr, Casnewydd, Merthyr a Wrecsam - negeseuon pob lwc i'r tîm."

Image copyright Getty Images
Image caption Capten Caerdydd, Fred Keenor (dde) yn siglo llaw â chapten Arsenal, Charles Buchan, ar ddechrau'r gêm
Image copyright Arall
Image caption Y gôl fuddugol wrth i'r bêl lithro o afael golwr Arsenal, y Cymro Dan Lewis
Image copyright Arall
Image caption Y cefnogwyr yn rhuthro ar y cae wedi'r fuddugoliaeth
Image copyright Arall
Image caption Capten Caerdydd, Fred Keenor a'r cwpan

Yn ei lyfr, Red Dragons, The Story of Welsh Football, mae Phil Stead yn disgrifio buddugoliaeth Caerdydd yn erbyn Arsenal yng Nghwpan FA Lloegr ar 23 Ebrill 1927 fel achos dathlu cenedlaethol:

Fe enillodd yr Adar Gleision y cwpan, nid yn unig dros Gaerdydd, ond dros Gymru hefyd.

Ac roedd hon yn wlad a oedd angen rhyw fath o ysgafnder, wrth i ddiweithdra godi i 23%.

Fe deithiodd cefnogwyr Caerdydd i Wembley o bob cwr o'r wlad.

Fe deithiodd 1,700 o Abertawe a gorsafoedd mwy gorllewinol, ar drenau dros nos, gan gyrraedd Llundain yn gynnar, wedi eu haddurno a chenhinau, gan ddrysu'r Llundeinwyr.

Cafodd y gêm ei dilyn yn y gogledd hefyd - cafodd uchelseinydd ei godi ar y Cae Ras, lle bu 2,000 o gefnogwyr Wrecsam yn gwrando ar sylwebaeth y rownd derfynol, wrth i'w tîm nhw golli yn erbyn Barrow.

Teithiodd pobl o Gaerdydd ar y trenau, er bod rhai wedi penderfynu gyrru.

Yn drist, cafodd un cefnogwr o Heol Albany ei ladd pan fu ei gerbyd mewn gwrthdrawiad ag un o dramiau Llundain.

Disgrifiodd y Western Mail yr awyrgylch fel un o garnifal: "Drwy nos Wener a'r oriau mân ddydd Sadwrn, roedd strydoedd Llundain yn llawn cerddoriaeth ac emynau a chaneuon o Gymru.

"Roedd cennin a chennin Pedr ymhob man.

"Nid achlysur i Gaerdydd oedd hwn yn unig. Roedd yn achlysur i Gymru."


Image copyright Graham Budd Auctions
Image caption Tocyn a rhaglen i'r rownd derfynol, fydd hefyd ar werth yn yr arwerthiant yn Sotheby's

Bydd y llun cefnogwyr The Penrhyn Contingent ar Sgwâr Trafalgar yn rhan o arwerthiant o henebion chwaraeon gan gwmni Graham Budd Auctions yn Sotheby's ar 16 Mai, gydag amcangyfrif o bris o rhwng £150-£200.

"Dwi'n meddwl ei fod yn llun arbennig," meddai'r arwerthwr Graham Budd, "a bydd yn cael ei werthu ar New Bond Street, dafliad carreg o lle cafodd y llun ei dynnu 90 mlynedd yn ôl."