Chwilio am enillydd loteri gwerth £1m

Lotto
Image caption Mae'r Loteri Genedlaethol yn annog pobl yn Sir Ddinbych i chwilio am y tocyn

Mae'r chwilio wedi dechrau am enillydd loteri sydd ddim wedi hawlio gwobr o £1m.

Fe gafodd y tocyn Loteri Genedlaethol ei brynu rywle yn Sir Ddinbych, cyn cynnal y loteri ar 1 Ebrill 2017.

Does neb wedi hawlio'r tocyn Lotto Millionaire - AQUA 6323 7030.

Mae gan y perchennog dirgel tan fis Medi 2017 i hawlio'r wobr.

Fe arall, bydd yr arian yn mynd at achosion da.

"Ry' ni'n annog pawb â brynodd docyn Lotto yn yr ardal hon i edrych drwy eu hen docynnau eto, neu chwilio am docyn sydd ar goll neu wedi ei guddio," meddai Andy Carter o'r Loteri Genedlaethol.

"Edrychwch ym mhocedi'ch dillad, eich waledi, bagiau, neu i lawr cefn y soffa - fe allai rhywun, yn llythrennol, fod yn eistedd ar ffortiwn."